Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 12 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae’r cynllun datblygu gwledig yn cynnig lefel o gefnogaeth i amaethyddiaeth, boed hynny yng Nghwm Cynon, neu unrhyw le arall yng Nghanol De Cymru, neu’n wir yng Nghymru gyfan. Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i gyflwyno cynllun grantiau bach yn ystod y tymor hwn. Pa bryd y credwch y bydd y cynllun grantiau bach hwnnw ar gael i ffermwyr, a beth sydd gennych mewn golwg o ran beth fydd yn cael ei ganiatáu o dan gynllun grantiau bach o’r fath pan fydd ar waith?