Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 12 Hydref 2016.
Rydym wedi bod yn hollol glir ynglŷn â’n hymrwymiad i ddarparu cymorth i sicrhau cymunedau gwledig llwyddiannus a chynaliadwy ledled Cymru. Rydym yn cyd-ariannu ein rhaglen datblygu gwledig gyda’r Undeb Ewropeaidd ac felly’n disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu gwarant ddiamod y byddant yn cyllido pob prosiect dan gontract o dan y rhaglen drwy gydol eu hoes.