<p>Cymunedau Gwledig </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:45, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’n rhan ohono; gwell fyth felly—mae’r cwestiwn yn fwy perthnasol nag y credwn. [Chwerthin.] A minnau’n Aelod rhanbarthol, mae gennyf dri chyngor gwahanol yng Nghanol De Cymru sy’n dehongli’r canllawiau cynllunio hynny mewn ffyrdd gwahanol iawn. Ar gyfer olyniaeth mewn busnesau fferm, ond hefyd ar gyfer busnesau gwledig, mae’r ddarpariaeth hon yn y system gynllunio yn ystyriaeth hanfodol i ganiatáu i fusnesau symud ymlaen. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn ystyried cynnal adolygiad o’r modd y mae TAN 6 yn cael ei roi ar waith ledled Cymru oherwydd, yn amlwg, mae cysondeb yn hanfodol fel nad yw busnesau’n teimlo eu bod yn cael eu llesteirio wrth gynllunio ar gyfer olyniaeth neu o ran gallu ehangu eu busnesau ac arallgyfeirio i feysydd eraill?