<p>Bio-ddiogelwch ar Ffermydd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:46, 12 Hydref 2016

Diolch i chi am eich ateb. Un o’r rhwystredigaethau mwyaf y mae ffermwyr yn ei wynebu ar hyn o bryd, wrth gwrs, yw’r rheol sefyll chwe diwrnod. Mae yna lawer o sôn wedi bod gan y Gweinidog blaenorol yn y Llywodraeth ddiwethaf bod yna fwriad i symud i fodel yn seiliedig ar unedau cwarantin. A allwch chi roi diweddariad inni ar le rydych chi arni ar y datblygiad yna a pha mor fuan y byddwn ni’n gweld ffermwyr yn cael yr opsiwn o ddefnyddio’r unedau yna yn hytrach na chloi’r fferm i lawr am chwe diwrnod?