Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 12 Hydref 2016.
Mae adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’ yn datgan bod rheoli tir yn ffactor pwysig ym maes cadwraeth, gan fod dros 70 y cant o Gymru yn dir fferm. Mae rheoli, wrth gwrs, yn cynnwys rheoli diogelwch. Mae awduron yr adroddiad wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i wneud nifer o bethau, gan gynnwys cefnogi rheoli tir sy’n helpu i gynnal a gwella natur a gwydnwch ecosystemau, sydd wrth gwrs yn agored i niwed yn sgil camgymeriadau o ran bioddiogelwch. Beth sydd ar goll o’n cynlluniau amaeth-amgylcheddol o ran helpu i gefnogi bioamrywiaeth—bioddiogelwch, mae’n ddrwg gennyf?