Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Roeddwn am awgrymu efallai y dylid cynhyrchu’r asesiad effaith rheoleiddiol yn gynt nag y mae’n ei ddisgwyl ar hyn o bryd, gan fod Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i ystyried effaith is-ddeddfwriaeth ar fusnesau, yn ôl eu cod ymddygiad eu hunain, a byddai’n llawer gwell pe bai hyn yn rhan o’r ymarfer ymgynghori ei hun gan y byddai’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn fwy gwybodus a gallai’r Gweinidogion wneud penderfyniadau gwell o ganlyniad i hynny.