Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 12 Hydref 2016.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau gwelliannau o ran y cyfleoedd sydd ar gael i bobl gael mynediad i’r awyr agored. Rhoddir ystyriaeth lawn ar hyn o bryd i’r ystod o faterion a nodwyd yn yr adolygiad cynharach, ond mae angen mwy o waith cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar gamau newydd posibl i gynyddu mynediad.