Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi derbyn nifer sylweddol o ymatebion i’r Papur Gwyrdd—credaf fod bron 6,000 ohonynt, os cofiaf yn iawn—felly mae’n cymryd peth amser i edrych ar bob un ohonynt. Ond yn ddiweddar, darparais ychydig dros £0.5 miliwn yn ychwanegol i barciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol er mwyn iddynt edrych ar eu blaenoriaethau o ran gweithgareddau hamdden awyr agored. Credaf fod pobl yn llwyr werthfawrogi’r awyr agored, ac mae’n wych gweld hynny. Rwy’n gwybod yn fy etholaeth fy hun, roeddwn yn chwarel Maes y Pant yng Ngresffordd, lle y gwelwch y campfeydd awyr agored hyn yn dechrau ymddangos, ac rwyf wedi gweld rhai ym mhob rhan o Gymru. Felly, mae’n dda iawn gweld pethau felly’n digwydd. Credaf fod angen i ni ystyried y ffordd ymlaen yn ofalus iawn, a gobeithiaf allu cyflwyno rhywbeth yn gynnar y flwyddyn nesaf.