Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch am eich atebion yn gynharach, Weinidog, ac roeddwn yn falch eich bod wedi crybwyll llwybr arfordir Cymru, sydd wedi bod ar gael i ni ers 2012, ac mae hwnnw’n gam mawr ymlaen. Ond wrth gwrs, mae llawer iawn o’r bron i 900 milltir yn cael ei ddifetha gan erydu arfordirol, a grybwyllwyd hefyd mewn dadl gynharach heddiw—neu gwestiwn. Tybed pa gamau y gallech eu rhoi ar waith i gynnal mynediad i’r llwybrau o ystyried yr erydu, sy’n effeithio’n benodol ar y llwybr rhwng Penarth a’r Barri yn fy ardal i.