Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch am eich ateb. Ofnaf i mi golli’r ddadl fer gan Huw Irranca-Davies ar y mater hwn, gan fy mod yn cadeirio grŵp trawsbleidiol, ond hoffwn gofnodi fy mod yn cefnogi pob un o’i argymhellion, yn enwedig y rhai ynglŷn â chyfarwyddwyr a chyfyngu heriau cyfreithiol i hysbysiadau atal, nid yn lleiaf oherwydd y gallai hynny fod o fudd mewn ffyrdd eraill, megis mewn cloddio glo brig. Felly, cefais fy nghalonogi gan ymateb Ysgrifennydd y Cabinet pan ddywedodd y byddai’n ystyried rhai o’r argymhellion hynny, o leiaf, ar ryw ffurf neu’i gilydd.
Y mater sy’n cael ei ddwyn i fy sylw i’n bersonol gan etholwyr yn yr ardal honno yw bod un o uwch aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn y cabinet, hefyd yn ysgrifennydd y cwmni penodol hwn. Felly, a oes dadl, pe bai rheoliadau’n cael eu diweddaru, y dylent atal rhai sy’n gyfrifol am orfodi rhag bod yn rhan o unrhyw fusnes a allai wynebu camau gorfodi? A wnewch chi edrych ar hyn os gwelwch yn dda?