Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 12 Hydref 2016.
Ar ôl siarad â thrigolion yn yr ardal a Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod y sefyllfa sy’n mynd rhagddi, credaf ei bod yn amlwg fod angen newid, a diolch am eich ymateb i’r ddadl fer yr wythnos diwethaf. Yn y cyfamser, fodd bynnag, a ydych wedi ystyried defnyddio eich pwerau o dan adran 61 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio ei bwerau ei hun mewn modd penodol? Mae’r pwerau hynny’n cynnwys y pŵer i atal trwydded.