<p>Tân yn Safle South Wales Wood Recycling</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:02, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr atebion, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwyf innau hefyd yn cefnogi’r materion a’r angen i newid rheoliadau. Ond gadewch i ni edrych y tu hwnt i fater pentyrru yn Heol-y-Cyw, gan fod llawer o safleoedd biomas yn gweithredu trefn bentyrru o’r fath—mae dau yn fy etholaeth, a thrydydd yn yr arfaeth, un o’r rhai mwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod y rheoliadau cynllunio’n edrych yn ofalus iawn ar yr argymhellion hyn i sicrhau, wrth ddatblygu cynlluniau, fod yr amodau hyn yn cael eu gosod ar ddatblygwyr er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd mewn sefyllfa fel honno.