Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 12 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried nifer y digwyddiadau a welwyd mewn safleoedd tebyg ledled Cymru a phryderon ynglŷn â goblygiadau iechyd y cyfeintiau mawr o ddeunydd gronynnol a gynhyrchir yn y math hwn o gyfleuster, a fydd Llywodraeth Cymru yn awr yn ystyried cyflwyno moratoriwm ar y math hwn o safle? A wnewch chi hefyd ystyried cyflwyno prosesau monitro llymach ar gyfer deiliaid trwyddedau presennol a chosbau llymach am dorri amodau trwyddedau yn y dyfodol?