Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n sylweddoli ein bod wedi bod yn aros am hyn, ac rwyf wedi—credaf fy mod wedi dweud yn y pwyllgor wrth gael fy nghraffu fod hyn yn flaenoriaeth, ond mae’n bwysig ein bod yn ei wneud yn iawn. Mae’n gymhleth iawn. Dyma’r cyntaf—credaf ein bod yn arloesi yng Nghymru wrth gael y cynllun hwn. Credaf ei fod yn bwysig iawn i’n helpu i reoli ein moroedd mewn modd llawer mwy integredig gan ein bod yn gweld llawer mwy o weithgaredd yn yr ardal forol. Roeddwn hefyd yn awyddus i ystyried adolygiad Hendry, a chyfarfu Ken Skates a minnau â Charles Hendry y mis diwethaf. Felly, dyna pam y cafwyd ychydig mwy o oedi. Os gallwn ei wneud yn gynharach na’r haf nesaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny, ond rydym yn ystyried yr holl opsiynau.