Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae fy rhanbarth wedi cael ei ddifetha gan ddiwydiannu ynni gwynt o ganlyniad i TAN 8 ac mae’n cael ei dargedu ar gyfer echdynnu nwy anghonfensiynol. Hefyd bydd gennym forlyn llanw cyntaf y byd. Mae arnom angen cymysgedd ynni gwirioneddol amrywiol, ond ni ddylid trin technoleg adnewyddadwy fel gweithfeydd pŵer yr ugeinfed ganrif. Ysgrifennydd y Cabinet, a gytunwch â mi fod gan ynni adnewyddadwy rôl bwysig i’w chwarae yn diwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol, ond mae’n rhaid i gynlluniau fod yn brosiectau ar raddfa fach wedi’u cefnogi gan y gymuned leol yn hytrach na gorsafoedd ynni adnewyddadwy mawr?