Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf i ateb anghenion tai pobl ifanc sy’n gadael gofal. Yn ddiweddarach y mis yma byddaf yn lansio fframwaith llety newydd ar gyfer rhai sy’n gadael gofal, fframwaith a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Barnardos a Shelter Cymru i hyrwyddo arferion gorau.