Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 12 Hydref 2016.
Weinidog, cyfeiriodd adroddiad Cymdeithas y Plant hefyd at y ffaith fod addysg ariannol yn wael iawn a bod llawer o bobl ifanc yn ei chael yn anodd cadw eu tenantiaethau ar ôl iddynt adael gofal. Ac unwaith eto, yn y fforwm ddoe, roedd yn eithaf amlwg fod galw am roi’r hawl i weithwyr cymorth weithio ochr yn ochr â rhai sy’n gadael gofal hyd nes eu bod yn 25 oed Nid yw’n rhywbeth sydd ar gael ar hyn o bryd yma yng Nghymru. Pa ystyriaeth a roesoch i ymestyn y ddarpariaeth i weithwyr cymorth weithio gyda’r bobl ifanc sy’n gadael gofal hyd nes eu bod yn 25 oed, ac a yw’n rhywbeth y gellid ei ychwanegu o bosibl at y fframwaith llety y cyfeirioch chi ato?