Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe clywsom gan eich Llywodraeth sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael â throseddau casineb. Yn anffodus, mae’r hinsawdd wleidyddol yn awr yn golygu bod troseddau casineb wedi’u cyfreithloni’n rhannol gan y rhethreg a ddaw gan lawer o wleidyddion ac elfennau o’r cyfryngau. A allwch ddweud wrthym heddiw pa un a ydych yn credu bod mewnfudo i Gymru wedi bod yn beth da o ran helpu i ddatblygu ein cenedl yma yng Nghymru a’i gwneud yn genedl fwy amrywiol?