<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:21, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Roedd y cytundeb yn mynd yn dda iawn ar y dechrau. [Chwerthin.] A gaf fi ddweud bod egwyddor ei chwestiwn yn rhywbeth sy’n peri pryder i mi, ac mae diffyg mynediad at arian cyhoeddus i unigolion yn rhywbeth rwy’n edrych arno? Mae gennyf grŵp cynghori newydd yn edrych ar y materion sy’n ymwneud ag amgylchiadau trais domestig, ac mae rhan o’r ymchwiliad rwy’n gofyn iddynt edrych arno’n ymwneud â hynny—a’r elfen gyllid ar gyfer lloches a chymorth cyfreithiol hefyd.