<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:22, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn olaf. Ni yw’r Blaid Lafur yng Nghymru a ni yw’r Llywodraeth yng Nghymru ac mae gennym safbwynt pendant iawn ar droseddau casineb. Rwy’n bwriadu arwain y gwaith ar hyrwyddo fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu troseddau casineb. Yr hyn rwy’n gobeithio y bydd yr Aelod yn ymuno â ni i’w wneud yw condemnio gweithredoedd unigolion a phleidiau gwleidyddol sy’n ceisio ennill cefnogaeth drwy’r troseddau casineb y credaf eu bod yn eu hachosi mewn cymunedau, gan achosi tryblith mawr i lawer o bobl. Rwy’n credu nad oes raid i ni edrych yn rhy bell mewn gwirionedd i weld ble mae hynny’n digwydd yn eithaf lleol.