Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am grybwyll y mater pwysig hwn. Rwy’n credu mai’r hyn y dylem edrych arno yw’r dangosyddion cywir, a byddaf yn nodi’r adroddiad hwnnw pan fyddwn yn diweddaru’r ddogfen. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar y manylion sy’n sail i hynny a sut y gallwn ddylanwadu ar newid mewn cymunedau, yn enwedig mewn perthynas â phobl ifanc, wrth symud ymlaen—hwy yw cenhedlaeth y dyfodol.