Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn. Mae hwn yn fater sy’n codi yn fy etholaeth i hefyd, Lywydd, ond fe seiliaf fy ymateb fel Gweinidog. Rwyf wedi gohebu gyda Chyngor Sir y Fflint ac rwyf hefyd wedi gohebu gyda thrigolion yr ardal honno. Rwy’n credu ei bod yn bwysig mai mater i’r awdurdod lleol yw’r trefniadau pontio ac rwyf wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â’r union faterion hyn. Mae’n bwysig i’r gymuned honno fod yna system addysg gadarn sy’n addas ar gyfer y gymuned honno.