Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n cyfarfod gyda’r comisiynwyr heddlu yn rheolaidd ac rwyf eisoes wedi cael dau gyfarfod ers dod yn Weinidog sy’n gyfrifol am gymunedau. Ond mae’n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol nad yw plismona wedi’i ddatganoli i’r sefydliad hwn.