Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 12 Hydref 2016.
Fel y dywedais, rwy’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu. Roedd un o ymrwymiadau cadarnhaol Llafur Cymru yn ymwneud â chyflwyno 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i’n cymunedau ledled Cymru, a chafodd groeso mawr yn ein holl gymunedau. Mater i Lywodraeth y DU ydyw, ac mae’n swyddogaeth sydd heb ei datganoli, ond rwy’n cydnabod y ffaith fod y gwaith y mae’r heddlu’n ei wneud yn ein cymunedau mewn gwirionedd yn cael ei werthfawrogi gan lawer.