Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch. Mae Action on Hearing Loss wedi canfod bod 84 y cant o’r 575,000 o bobl yng Nghymru sy’n fyddar neu’n cael anawsterau am eu bod yn drwm eu clyw yn teimlo bod hyn yn amlwg yn ei gwneud yn anos iddynt gael mynediad at wasanaethau hanfodol. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wrth gwrs, sydd â’r gyfran uchaf yng Nghymru, sef 23 y cant, gyda 27,000 o bobl angen cefnogaeth briodol o’r fath. O ran Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru, efallai eich bod yn ymwybodol fod cyllid y ddarpariaeth wedi ei dorri. Rwyf wedi ysgrifennu at yr awdurdod yn ddiweddar iawn, ac yn gwrtais iawn, wedi gofyn am adfer yr arian hwn sy’n fawr ei angen i gefnogi’r gwasanaeth hollbwysig hwn. A wnewch chi, yn eich rôl, ysgrifennu hefyd i gefnogi ein hymgais i sicrhau bod y cyllid yn cael ei adfer?