<p>Pobl sy’n Fyddar neu’n Drwm eu Clyw</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:39, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddatgan buddiant yn gyntaf fel llywydd grŵp pobl drwm eu clyw Abertawe, ac mae gennyf chwaer sy’n fyddar iawn hefyd? Mae’n hawdd iawn gwahaniaethu mewn cyflogaeth: nid oes ond yn rhaid i chi nodi bod ateb y ffôn yn rhan o’r swydd ac yn syth, ni fydd rhywun sy’n fyddar yn gallu ymgeisio. Yr un peth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr yw parch cydradd rhwng iaith arwyddion fel iaith gyntaf a Saesneg a Chymraeg iaith gyntaf, er mwyn i bobl sy’n fyddar gael yr un cyfleoedd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet archwilio hyn?