<p>Pobl sy’n Fyddar neu’n Drwm eu Clyw</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:40, 12 Hydref 2016

Gall cysylltu efo gwasanaethau cyhoeddus drwy’r dulliau traddodiadol, fel canolfannau galw, fod yn brofiad anodd a rhwystredig i ni gyd ar adegau, ond wrth gwrs mae’n gallu bod yn anoddach fyth i bobl fyddar neu drwm eu clyw. Felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yna ffyrdd gwahanol o gysylltu ar gael i bobl fyddar neu drwm eu clyw er mwyn sicrhau nad ydyn nhw ddim yn cael eu rhwystro rhag cysylltu efo’r gwasanaethau cyhoeddus?