Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 12 Hydref 2016.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Mae Dechrau’n Deg wedi gwella cyfleoedd bywyd llawer o fy etholwyr yn fawr. Mae’n golygu bod plant yn dechrau yn yr ysgol ar lefel eu hoedran cronolegol neu’n agos ato. Er fy mod yn credu y dylai fod yn seiliedig ar gymunedau, nid ar ardaloedd cynnyrch ehangach a grëwyd ar fympwy’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a wnaiff y Gweinidog ailadrodd ei gefnogaeth i Dechrau’n Deg?