Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 12 Hydref 2016.
Mae’n amlwg fod yna bryderon am y meini prawf cymhwyso ar gyfer Dechrau’n Deg a ffocws daearyddol hynny, ac roedd yn destun pryder a fynegwyd yn erbyn Cymunedau yn Gyntaf hefyd gyda wardiau etholiadol ac o bosibl un ochr i’r ffordd yn rhan o’r cynllun a’r ochr arall i’r ffordd heb fod yn rhan o’r cynllun. Crybwyllais hyn ddoe yn eich cyhoeddiad ar y parthau plant arfaethedig. A allech gadarnhau na fydd parthau plant yn defnyddio dull mor ffwr-bwt o weithredu? A allwch ddweud yn glir pa un a fydd y parthau arfaethedig yn ardaloedd lle bydd yn rhaid i bobl fyw o’u mewn er mwyn cael mynediad at y gwasanaeth, neu a fydd y gwasanaethau’n cael eu darparu mewn parthau penodol y gall unrhyw un gael mynediad atynt?