Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ateb i Llyr Gruffydd. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod yn awyddus i ehangu mynediad at Dechrau’n Deg. Rwy’n credu ei fod yn gwneud gwahaniaeth ac mae’n drueni fod cymaint o bobl wedi cael eu heithrio rhag cael mynediad at y gefnogaeth sydd ar gael drwy Dechrau’n Deg hyd yn hyn. Ond a allwch roi amserlen ar gyfer pa bryd rydych yn disgwyl gweithredu’r penderfyniad hwn yr ymddengys bellach eich bod wedi’i wneud, gan y credaf ei bod yn bwysig i hyn ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach?