Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch am yr ateb, Weinidog. Mae’r rhaglen lywodraethu yn gwneud nifer o addewidion i wella gwasanaethau cymorth i gyn-filwyr. Fodd bynnag, nid oes sôn am gardiau i gyn-filwyr, a fyddai, o dan argymhellion eraill, yn darparu teithiau bws am ddim a mynediad am ddim i ganolfannau hamdden a safleoedd Cadw. Byddent yn rhoi mynediad â blaenoriaeth i driniaeth GIG ac addasiadau i’r cartref, os oes angen, o ganlyniad i anaf a gafwyd wrth wasanaethu. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried cyflwyno’r cerdyn i gyn-filwyr yng Nghymru os gwelwch yn dda?