Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Unwaith eto, mae’r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn hanfodol. Yn fy etholaeth i, mae gwirfoddolwyr yn gweithio mewn llyfrgelloedd cymunedol, canolfannau cymunedol a gwasanaethau cymorth ar draws y dref a’r etholaeth i sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n parhau yn y cymunedau. Mae’r gwirfoddolwyr unigol hyn yn allweddol i waith y sector, ac mae rhai o’r bobl yn gwneud yr un swyddi ar sawl achlysur. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd i annog mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan er mwyn sicrhau ein bod yn rhannu’r llwyth gwaith hwnnw, i gymryd mwy o ran yn y cymunedau a sicrhau y gall y gwasanaethau hyn barhau, gan ein bod yn rhoi gormod o faich ar y bobl sy’n gwneud hynny yn awr?