Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i grybwyll trosglwyddo asedau a pherchnogaeth gymunedol. Rwy’n credu mai’r hyn rydym yn ceisio ei wneud fel Llywodraeth yw galluogi cymunedau i gymryd meddiant a deall y risgiau hefyd, gan fod llawer o’r sefydliadau hyn sy’n cael eu symud o berchnogaeth gyhoeddus i berchnogaeth gymunedol yn anodd iawn i’w rhedeg weithiau yn ariannol ac yn gorfforol. Mae’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i fy nhîm weithio arno gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i weld a oes rhaglen y gallwn ei defnyddio i helpu cymunedau i ddod yn gryfach yn hynny o beth.