Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 12 Hydref 2016.
Wel, a gaf i ofyn i’r Gweinidog adolygu hyn unwaith eto, achos fe welom ni drwy’r broses o gyfuno cymdeithasau tai Cantref a Wales & West Housing broses oedd yn gwbl ddiffygiol, yn fy marn i, am sawl reswm, ond, yn y cyd-destun yma, oherwydd diffyg ymgynghori llwyr gyda thenantiaid? Roedd cyfeiriad ganddo gynnau i’r broses o drosglwyddo stoc. Mae balot yn digwydd yn achos trosglwyddiadau stoc, ond, yn yr achos yma, nid oedd unrhyw ymgais i gael barn y tenantiaid. Mae’r Gweinidog yn dweud ‘na’, ond gallaf i ddweud wrtho fe mai rhyw bwt yn y cylchlythyr aeth i’r tenantiaid, er gwaetha’r ffaith, wrth gwrs, fel y dylai wybod, o dan y Ddeddf Tai 1985, mae gan denantiaid diogel, wrth gwrs, yr hawl statudol i ymgynghoriad, sydd ddim yn wir, wrth gwrs, am denantiaid sicr—cyferbyniad arall. Roedd y broses yn gwbl ddiffygiol. A gaf i ofyn iddo fe i roi’r un hawl i denantiaid RSLs ag sydd yna ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol?