Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o fod ymhlith llawer o Aelodau o bob rhan o’r Siambr sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer dadl heddiw i sicrhau ein bod yn cyflawni potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Fel y noda’r cynnig, mae gweithgarwch corfforol yn creu manteision lluosog i iechyd a lles, ac rydym yn wynebu bom amser o ordewdra. Rydym o’r diwedd yn cydnabod cystudd iechyd meddwl sy’n rhy aml yn gudd, ac mae yna heriau ehangach: y niwed a wnaed i’n hamgylchedd naturiol gan ollyngiadau carbon cynyddol y cyfranwyd atynt gan ein gorddibyniaeth ar geir; yr anghyfiawnder cymdeithasol o leoli gwasanaethau gan dybio bod gan bob teulu yng Nghymru gar at eu defnydd, a gorfodi’r 20 y cant tlotaf i dreulio chwarter eu hincwm ar redeg car. Rydym yn aml yn siarad am dlodi tanwydd fel rhywbeth sy’n berthnasol i aelwydydd sy’n gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar danwydd, ond nid ydym yn sôn am dlodi trafnidiaeth, sy’n taro’r tlotaf yn galetach na neb.
Mae yna rai ymyriadau a all effeithio ar draws heriau eang a hollbresennol o’r fath, ac mae teithio llesol yn un ohonynt. Efallai na fyddwch yn gallu perswadio pobl nad ydynt yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol i fynd i gampfa neu ar gae pêl-droed, ond mae modd creu amgylchedd sy’n annog teithio llesol, sy’n ymgorffori gweithgarwch corfforol yn rhan o’u harferion dyddiol. Mae potensial sylweddol i newid y ffordd rydym yn gwneud teithiau byr. Mae 20 y cant o deithiau car yn deithiau o dan un filltir o hyd, y math o daith y gellir ei gwneud mewn 20 munud ar droed. A hanner yr holl deithiau car—hanner—yn deithiau o dan bum milltir o hyd. Dyna bellter taith feic 30 munud nodweddiadol ar lwybr di-draffig, fel llwybr arfordir y mileniwm yn fy etholaeth, neu Lwybr Taf yma ym mae Caerdydd.
Ond mae yna rwystrau, nid yn lleiaf yr amgylchedd ffisegol sydd wedi annog y defnydd o geir ac wedi lladd awydd pobl i gerdded a beicio ar deithiau byr. Mae’r panel Foresight ar ordewdra wedi bathu’r ymadrodd ‘sy’n achosi gordewdra’ i ddisgrifio’r amgylchedd rydym wedi ei adeiladu, ac maent yn credu y bydd yn arwain at wneud 60 y cant o ddynion yn ordew erbyn 2050.
Nawr, gall Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 chwarae rhan bwysig yn herio hynny. Mae ganddi’r potensial i fod yn un o’r deddfau mwyaf radical o’r rhai a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a’r ymyrraeth iechyd cyhoeddus bwysicaf y gallwn ei chyflwyno i leihau’r pwysau ar y GIG. Mae data o gyfres hir o astudiaethau wedi dangos manteision helaeth annog gweithgarwch corfforol, o lai o risg o glefyd coronaidd y galon, canser, strôc, diabetes math 2, i wella’r gallu i ganolbwyntio, gwella hyder a lliniaru straen.
Ond un o’r heriau i weithredu’r agenda hon yw nad lle gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd yw ei gweithredu, ond gweithwyr proffesiynol trafnidiaeth. Ac o ran trafnidiaeth, mae hon yn agenda ymylol. Ers 50 mlynedd, mae polisi trafnidiaeth wedi canolbwyntio’n bennaf ar greu mwy o le i geir ac adeiladu ffyrdd i ganiatáu i geir deithio’n gyflymach. Mae cerddwyr a beicwyr wedi cael eu gwthio o’r neilltu yn llythrennol. Felly, yr her ar gyfer gweithredu hyn yw newid y diwylliant hwnnw ac ni ddylem fychanu pa mor anodd fydd hyn. Yn ôl ym mis Chwefror, roedd y pwyllgor menter yn llygad ei le’n nodi’r ffaith fod angen arweiniad pendant ar y Ddeddf er mwyn iddi lwyddo. Ond yn yr un modd ag y mae angen arweiniad ar lefel weinidogol—a gwn fod Rebecca Evans a Ken Skates wedi ymrwymo’n llwyr i’r agenda hon—mae’n rhaid i ni weld arweiniad ar bob lefel i osod esiampl, i normaleiddio ymddygiad, fel roedd yn normal rai cenedlaethau’n ôl yn unig.
Mae arnom angen arweiniad gan rieni: yn hytrach na chlicio’u plant i mewn i gefn ceir ar gyfer teithiau byr—byr iawn weithiau—gwneud ymdrech i gerdded yn lle hynny. Mae arnom angen arweiniad gan beirianwyr priffyrdd, archwilwyr diogelwch a chynllunwyr trafnidiaeth, er mwyn cynnwys llwybrau croesawgar a chyfleus fel mater o drefn. Nod y rhwydwaith beicio cenedlaethol, er enghraifft, a ddatblygwyd gan yr elusen trafnidiaeth werdd, Sustrans, yw llunio llwybrau a fyddai’n teimlo’n ddiogel i berson ifanc 12 oed ar feic ar ei ben ei hun. Faint o’n lonydd beicio neu lwybrau cyd-ddefnyddio presennol y gellir dweud yn onest eu bod yn pasio’r prawf hwnnw?
Mae arnom angen arweiniad gan feddygon teulu sydd â’r hyder i annog pobl sy’n cario gormod o bwysau neu dan straen neu’n dioddef o un o’r nifer o gyflyrau y cyfrennir atynt gan anweithgarwch corfforol, i gadw’n heini, yn hytrach na rhagnodi tabledi fel mater o drefn. Mae arnom angen arweiniad gan ysgolion. Mae plant egnïol yn dysgu’n well. Mae Wythnos y Beic yn iawn, ond sut mae gwneud pob diwrnod yn ddiwrnod Cerdded i’r Ysgol, a phob wythnos yn Wythnos y Beic? I gyflogwyr, ceir digon o dystiolaeth fod gweithwyr sy’n beicio i’r gwaith yn absennol yn llai aml o’r gwaith oherwydd salwch, a bydd buddsoddi mewn cawodydd a mannau parcio beiciau yn cael ei ad-dalu mewn cynhyrchiant.
Felly, yn union fel y ceir manteision lluosog yn sgil cael hyn yn iawn, ceir cyfrifoldebau lluosog hefyd er mwyn ei gael yn iawn. Rwyf am ganolbwyntio ar yr hyn rwy’n ei ystyried yn gyfrifoldeb sylfaenol, ac yn un sy’n cael ei grybwyll yn y cynnig, sef sicrhau ymgysylltiad llawn â chymunedau.
Nid pobl sy’n cerdded a beicio yw’r gynulleidfa darged ar gyfer yr agenda hon—maent yn ei wneud yn barod. Y bobl nad ydynt yn ei wneud yw’r gynulleidfa. Ni fydd stribed liw o darmac ar hyd ffordd brysur sy’n diflannu’n sydyn o dan geir wedi parcio yn gwneud y tro. Nid oes ond raid i ni edrych ar y strydoedd sydd wedi ceisio gwneud hynny i weld nad yw’n gwneud y tro. Y demtasiwn i gynghorau yw datblygu yn y man hawsaf, nid lle y ceir fwyaf o botensial i’w ddefnyddio. Mae hon yn agenda uchelgeisiol; bydd yn anodd a bydd yn cymryd amser. Ond mae angen i ni wybod i ble mae pobl yn dymuno mynd—y llwybrau y byddent yn cael eu temtio i roi cynnig arnynt. Mewn rhai cymunedau, efallai mai’r daith ddyddiol i’r gwaith fydd y llwybr sy’n annog pobl i fynd ar eu beiciau, mewn eraill, efallai mai taith ddydd Sadwrn i’r ganolfan hamdden leol fydd y llwybr hwn.
Mae angen i ni wybod hefyd am ymyriadau ehangach, y tu hwnt i seilwaith, a fydd yn eu hannog: hyfforddiant beicio ar ffyrdd go iawn i oedolion a phlant, mapiau ac arwyddion hawdd eu darllen, a bysiau cerdded i blant fynd i’r ysgol. Yr hyn sy’n hollbwysig yw na fyddwn yn gwybod hyd nes y byddwn yn gofyn. Eto i gyd, yn y broses ddiweddaraf i sefydlu a mapio’r holl lwybrau sydd eisoes yn bodoli, ni wnaeth y rhan fwyaf o awdurdodau fwy na’r lleiafswm—holiadur ar-lein am y cyfnod gofynnol o 12 wythnos yn unig. Ar draws Cymru, 300 o bobl a gymerodd ran. Mae hynny’n llai na 0.01 y cant o boblogaeth Cymru. Mae’n hanfodol fod lleisiau ehangach yn cael eu clywed, ac os yw’r Ddeddf hon yn mynd i fod yn llwyddiant fel y gwn y gall fod, mae hynny’n golygu targedu pobl nad ydynt yn cerdded a beicio ar hyn o bryd.
Rwy’n canmol y fenter ar y cyd gan Sustrans Cymru, Living Streets, Cycling UK a Beicio Cymru i lansio adnodd syml, hawdd ei ddefnyddio ar y we i’w gwneud yn hawdd i bobl awgrymu llwybrau newydd ac wedi’u gwella. Ond gadewch i ni fod yn ddychmygus yn y ffordd rydym yn ei ddefnyddio—wrth gatiau’r ysgol ac mewn parciau trampolîn, mewn sinemâu a digwyddiadau dros dro, mewn gweithleoedd a meddygfeydd meddygon teulu. Bydd hyd oes y cynlluniau teithio llesol hyn rhwng 10 a 15 mlynedd a byddant wedi’u cysylltu â chyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Os na chawn yr ymgynghoriad cychwynnol hwn yn iawn, bydd adnoddau yr ymladdwyd yn galed amdanynt yn cael eu gwastraffu.
Mae’r manylion yn wirioneddol bwysig. Gellid gwario £500 ar lwybr newydd, ond gall giât neu rwystr heb ei ystyried yn iawn olygu na fydd yn cael ei ddefnyddio, ac rwyf wedi gweld llawer o lwybrau’n dioddef o hyn. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn cynnwys her yn y system. Dylai pobl leol allu herio ac awgrymu gwelliannau’n hawdd i gynghorau lleol. Mae angen i Lywodraeth Cymru gryfhau ei chyngor, er mwyn iddi allu herio’r cynlluniau a gyflwynir iddi gan yr awdurdodau lleol. Rydym wedi gweld o’r rownd gyntaf o fapiau fod yna ddigon o le i herio. Mae’n rhaid i ni gael hyn yn iawn. Mae’r Llywodraeth wedi penodi’r cynllunydd lleoedd mawr ei barch, Phil Jones, i arwain y grŵp arbenigol ar gyfer cytuno’r canllawiau statudol i gyd-fynd â’r Ddeddf, ac mae’r canllawiau hynny’n dda iawn.
Mae angen hyfforddiant a chymorth ar y rhai ar y rheng flaen yn awr i sicrhau y gallant ei gymhwyso’n iawn, ac argymhelliad allweddol y canllawiau cynllunio ar gyfer y Ddeddf teithio llesol yw ymgynghori da ar gamau cynnar er mwyn helpu i osgoi penderfyniadau gwael. Fel y mae’n dweud:
Po fwyaf o gyfle a gaiff pobl i lunio a dylanwadu ar gynlluniau cerdded a beicio ar gyfer eu hardal leol, y mwyaf tebygol y byddant o’u defnyddio.
Cael hyn ar y llyfr statud, Lywydd—y darn cyntaf o ddeddfwriaeth i gwblhau’r daith o ddeiseb i dderbyn cymeradwyaeth frenhinol—oedd y rhan hawdd. Mae hon yn ddeddfwriaeth radical a dylid cymeradwyo’r ymrwymiad y mae’r Llywodraeth wedi’i ddangos tuag at agenda sy’n cael ei hesgeuluso’n rhy aml. Ond ni fydd y ddeddf bwysig hon yn gweithio oni chaiff ei gweithredu’n radical, a dyna pam rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw. Diolch.