Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon ar weithgarwch corfforol. Yn gyntaf oll, rwyf am ailadrodd pa mor bwysig yw hi fod plant yn cael cymaint o weithgarwch corfforol â phosibl, a dylid adeiladu’r gweithgarwch corfforol hwnnw’n rhan o’u diwrnod. Nid ydym eisiau magu cenedl o bobl ddiog, gan ein bod yn gwybod pa mor dda yw gweithgaredd corfforol i ni, fel y mae ein meddyg newydd ddweud wrthym. Wrth gwrs, fe wyddom ei fod yn dda iawn ar gyfer iechyd meddwl yn ogystal. Ddoe, roedd llawer o sôn am achlysur emosiynol iawn digwyddiad y Samariaid yn y Pierhead, pan siaradodd Nigel Owens mor deimladwy am ymdopi â phroblemau iechyd meddwl. Rydym yn gwybod bod gweithgarwch corfforol yn dda iawn i’ch iechyd meddwl.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei adroddiad ar gyfer 2016, ‘Gwneud Gwahaniaeth’, bob blwyddyn, mae anweithgarwch corfforol yn costio £51 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru a gallai mwy o feicio a cherdded mewn ardaloedd trefol arbed £0.9 biliwn i’r GIG yng Nghymru dros 20 mlynedd. Felly, mae llawer iawn o wahaniaeth y gellid ei wneud i’r ffordd y caiff ein gwasanaeth iechyd ei weithredu. Felly, credaf mai’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud yw annog plant i ddechrau patrymau ymddygiad da, iachus o gam cynnar yn eu bywydau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio ar y pwynt hwn fod llawer o’r gweithgareddau y mae plant yn eu gwneud y tu allan i’r ysgol yn costio cryn dipyn o arian i rieni. Clybiau pêl-droed, nofio a thenis—mae’n rhaid i rieni dalu am lawer o hyn o’u pocedi eu hunain mewn gwirionedd. Dyna pam y mae hi mor bwysig fod llawer o’r hyn sy’n cael ei wneud yn cael ei gynnwys yn rhan o’n system addysg.
Hoffwn ganmol y mentrau bysiau cerdded a grybwyllodd Lee Waters yn ei gyflwyniad. Yn benodol, hoffwn ganmol y fenter bws cerdded yn Ysgol y Wern yn fy etholaeth i, sy’n cael ei chefnogi erbyn hyn gan gyd-heddlu y Rhingyll Louise Lucas, a laddwyd mor drasig wrth iddi groesi’r ffordd yn Abertawe ym mis Mawrth y llynedd. Yn anffodus, bu mwy o gyhoeddusrwydd am hynny dros y dyddiau diwethaf. Mae ei chydweithwyr yng ngorsaf yr heddlu Llanisien yn benderfynol o barhau â’r bws cerdded i’r ysgol roedd hi wedi’i ddechrau. Euthum ar y bws cerdded fy hun yr adeg hon y llynedd. Rwy’n meddwl bod y fenter bws cerdded yn ffordd dda iawn o gynnwys ymarfer corff ym mywydau plant, ac rwy’n meddwl ei fod yn wych i rieni wybod bod eu plant yn ddiogel wrth gerdded i’r ysgol. Felly, credaf fod honno’n fenter sydd angen i ni ei hybu a’i rhannu gymaint â phosibl. Cafodd y fenter benodol honno ei chefnogi’n gryf iawn gan Sustrans, yr awdurdod lleol a’r heddlu.
Cerdded, wrth gwrs, yw’r gweithgaredd hawsaf a mwyaf hygyrch y gallwn i gyd ei gynnwys yn ein bywydau. Dyna pam rwy’n cefnogi’r Ddeddf teithio llesol yn fawr, fel pobl eraill yma, a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar gynllunio llwybrau teithio llesol ar gyfer cerdded a beicio. Mae Lee Waters eisoes wedi crybwyll y methiant—efallai—i ymgysylltu yn y rownd gyntaf o ymgynghori. Rwy’n credu ei fod wedi dweud mai 300 o ymatebion yn unig a ddaeth i law i’r ymgynghoriad cyntaf drwy Gymru gyfan. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn yn awr ein bod yn ceisio cael llawer mwy o safbwyntiau ynglŷn â ble y dylai’r llwybrau fod. Os bydd pobl yn cymryd rhan yn y broses o benderfynu ble mae’r llwybrau hyn, mae’n llawer mwy tebygol y byddant yn eu defnyddio.
Y pwynt olaf roeddwn am ei wneud, mewn gwirionedd, oedd ynglŷn â rhai o’r gwahaniaethau rhwng y rhywiau sy’n bodoli o ran cerdded a beicio. Roedd gwybodaeth gan Sustrans yn gynharach eleni yn tynnu sylw at y ffaith y dylai awdurdodau lleol gofio bod yna wahaniaeth rhwng y rhywiau yn y ffordd y mae menywod eisiau beicio, er enghraifft. Mae menywod, er enghraifft, yn llawer mwy awyddus na dynion i feicio pan fo llwybrau beicio ar wahân ar gael.
Y mater arall yw fy mod yn meddwl bod yna wahaniaeth mawr rhwng nifer y menywod sy’n beicio a nifer y dynion. Dim ond 34 y cant o fenywod yng Nghaerdydd a ddywedodd eu bod yn beicio, o gymharu â 66 y cant o ddynion. Felly, mae hwnnw’n wahaniaeth eithaf mawr, ac unwaith eto, yng Nghaerdydd oedd hynny—arolwg a gynhaliwyd gan Sustrans. Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gadw mewn cof pan fyddwn yn cynllunio’r pethau hyn fod yna gwestiynau rhyw-benodol y dylem edrych arnynt.
Yn olaf, cawsom Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch ddoe. Rwy’n meddwl bod y dyddiau rhyngwladol hyn yn bwysig iawn, gan eu bod yn gwneud i ni gofio a thynnu sylw at faterion gwahanol. Hoffwn sôn yn gyflym am ferched a chwaraeon oherwydd, yn anffodus, mae merched yn dal i lusgo ar ôl bechgyn o ran gwneud gweithgarwch corfforol ar ffurf chwaraeon. O ran y rhai sydd â’u bryd ar chwaraeon, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod chwaraeon yn mynd â bryd 52 y cant o fechgyn a 44 y cant yn unig o ferched. Mae wedi codi, ond mae yna hefyd wahaniaeth mawr rhwng plant ysgol mewn ardaloedd difreintiedig ac yn ôl grŵp ethnig, gyda’r lefel isaf o gyfranogiad mewn chwaraeon ymhlith merched Asiaidd, gyda 28 y cant yn unig yn cymryd rhan. Felly, rwy’n meddwl bod llawer o bethau i edrych arnynt.