Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwyf wedi crybwyll o’r blaen, Lywydd, ein bod wedi bod yn cael cyfarfodydd ers peth amser bellach yng Nghasnewydd, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o’u galw ynghyd rhwng y bwrdd iechyd lleol, ac iechyd y cyhoedd yn arbennig, Casnewydd Fyw, sef yr ymddiriedolaeth hamdden, cyngor Dinas Casnewydd, cymdeithasau tai, gan gynnwys Cartrefi Dinas Casnewydd a gymerodd y gwaith trosglwyddo stoc a’r prif stadau gan gyngor Dinas Casnewydd, clybiau chwaraeon ac amryw o rai eraill. Pwrpas y cyfarfodydd hyn yw ceisio gwneud poblogaeth Casnewydd yn fwy egnïol yn gorfforol ac yn iachach. Rwy’n gobeithio’n fawr y gall Llywodraeth Cymru gefnogi rhai o’r mentrau sy’n deillio o’r cyfarfodydd hynny i weld a ydynt yn effeithiol, eu bod yn gweithio ac y gellid eu cyflwyno ledled Cymru, oherwydd rwy’n credu ein bod angen cynlluniau peilot i brofi rhai o’r partneriaethau hyn. Oherwydd oni bai ein bod yn adeiladu partneriaethau gwirioneddol eang, a dwfn yn wir, mae’n ymddangos i mi nad ydym yn mynd i gael y newid ar y raddfa fawr sydd ei angen arnom i gael Cymru’n fwy gweithgar yn gorfforol ac yn iach, gyda’r holl fanteision amlwg sy’n deillio o hynny.
Mae angen i ni fod ar y droed flaen mewn perthynas ag iechyd, yn hytrach na bod yn adweithiol yn bennaf, ac rwy’n credu bod poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol yn rhan fawr o’r ymdrech honno. Felly, yn yr un modd ar gyfer teithio llesol, rwy’n credu bod arnom angen partneriaeth system gyfan os ydym yn mynd i wneud teithio llesol ar gyfer teithiau byr yn ddewis rheolaidd. Bydd angen cynllunwyr arnom i gefnogi’r gwaith, a bydd arnom angen awdurdodau lleol a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus o ran y ffordd y maent yn hwyluso teithiau llesol i ac o’r gwaith ymhlith eu staff. Wrth gwrs, bydd angen i ni gael ysgolion, efallai, i wneud hyd yn oed rhagor ar lwybrau diogel i ysgolion, hyfforddiant beicio, a darparu beiciau weithiau, gobeithio, i blant mewn amgylchiadau mwy difreintiedig nad oes ganddynt feiciau, efallai drwy gynlluniau cymunedol lle y caiff beiciau eu rhoi, eu trwsio a’u gwneud yn ddefnyddiadwy eto. Hefyd, wrth gwrs, y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru. Rydym yn siarad am bartneriaethau sector cyfan os ydym yn mynd i gael newid ar raddfa fawr; credaf fod hynny’n berthnasol i weithgarwch corfforol yn gyffredinol, ac mae’n berthnasol i deithio llesol hefyd. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn gamu ymlaen yn yr ysbryd hwnnw ar lefel Llywodraeth Cymru, ar lefel llywodraeth leol, gyda’r holl bartneriaid allweddol ar ôl y ddadl hon heddiw.
Clywsom yn gynharach, Lywydd, gan Lee Waters, wrth agor y ddadl, am fanteision gwych a natur radicalaidd y Ddeddf teithio llesol. Wel, os caf ddweud, Lywydd, fel y Gweinidog a gafodd y fraint o dywys y ddeddfwriaeth teithio llesol drwy’r Cynulliad a’i rhoi ar y llyfr statud, cytunaf yn fawr iawn â fy nghyd-Aelod Lee Waters a llawer o siaradwyr eraill yn y ddadl hon heddiw, rwy’n siŵr. Rwy’n credu ei bod yn radical. Rwy’n credu y gallai gyflawni newid sylweddol o ran gweithgarwch corfforol ac iechyd, yr amgylchedd, yr economi ac ansawdd bywyd yn gyffredinol yng Nghymru. Felly, o ystyried yr addewid hwnnw, y potensial hwnnw, rwy’n gobeithio’n fawr iawn, ar ôl heddiw, y byddwn yn symud ymlaen i weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn llawn, yn frwdfrydig ac mewn modd amserol. Diolch yn fawr.