3. 3. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Teithio Llesol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:42, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Bydd yr Aelodau’n cofio fy mod wedi nodi yn fy natganiad llafar yn ddiweddar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teithio llesol yng Nghymru a beth rydym yn ei wneud yn fwy eang i annog pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol. Rwy’n falch o roi fy nghefnogaeth lawn i’r cynnig sy’n cael ei drafod heddiw, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelodau am y diddordeb diffuant a’r brwdfrydedd y maent yn ei gyfrannu i’r agenda hon.

Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gynorthwyo pobl i fod yn iach ac yn heini. Mae cyflawni hyn, fodd bynnag, yn galw am weithredu ar draws y portffolios i greu’r amgylchedd a’r cyfle i bobl ddewis ffyrdd o fyw iachach. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid, gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ystod wirioneddol eang o sefydliadau trydydd sector i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o fanteision gweithgarwch corfforol ac yn cael eu hysgogi, a bod cyfleoedd yn cael eu darparu iddynt allu cynnwys gweithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd. Mae gan Chwaraeon Cymru nifer o raglenni ar waith sy’n annog pobl ifanc yn arbennig i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac rwy’n wirioneddol falch o ddweud bod y cyfraddau sy’n cymryd rhan yn cynyddu, ond rydym yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud.

Dros yr haf, rydym wedi ystyried, ochr yn ochr â rhai sydd â diddordeb, amrywiaeth o argymhellion i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol. Bydd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn cadeirio grŵp trawsbynciol sydd newydd ei sefydlu i flaenoriaethu ein camau gweithredu i gefnogi’r agenda hon. Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio ein strategaeth iach a gweithgar yr ymrwymasom iddi yn ein rhaglen lywodraethu.

Mae ail bwynt y cynnig heddiw yn cyfeirio at ddata arolwg iechyd Cymru ar y cyfraddau gweithgarwch corfforol ymhlith plant. Mae’n rhaid i wella lefelau gweithgarwch corfforol ymysg plant fod yn flaenoriaeth oherwydd bod manteision ffordd iach a gweithgar o fyw yn ystod plentyndod yn cael eu gwireddu drwy gydol oes yr unigolyn. Hefyd ceir cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol a chyrhaeddiad addysgol. Gwelais enghraifft go iawn o hyn yn ddiweddar pan ymwelais ag Ysgol Gynradd Pantysgallog i weld sut y maent wedi cyflwyno taith gerdded, loncian neu redeg 1 filltir o hyd i holl ddisgyblion cyfnod allweddol 2, ac sy’n digwydd rhwng y clwb brecwast a dechrau’r diwrnod ysgol. Yn ogystal â’r manteision iechyd, mae’r athrawon yn yr ysgol wedi sylwi ar ostyngiad mewn ymddygiad aflonyddgar yn ystod y gwersi a dywedodd y plant wrthyf am eu lefelau canolbwyntio gwell. Roeddent hefyd yn dweud wrthyf faint o hwyl oedd gwneud hyn, ac ni allwn orbwysleisio pa mor bwysig yw hynny.

Dangosodd canlyniadau’r arolwg iechyd Cymru diweddaraf fod y gyfradd o blant oedran ysgol sy’n cyrraedd y lefel a argymhellir gan y prif swyddog meddygol o weithgarwch corfforol wedi cynyddu 1 y cant i 36 y cant, felly mae pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir, ond rydym am gyflymu’r gwelliant hwnnw. Mae hyn yn galw am ymateb y gymdeithas gyfan.

Mae gan ysgolion rôl allweddol i’w chwarae. Mewn ymateb i’r adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ gan yr Athro Donaldson, rydym yn datblygu cwricwlwm newydd a fydd yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i ddod yn unigolion iach a hyderus. Bydd gweithredu chwe maes newydd o brofiadau dysgu yn ganolog i’r cwricwlwm newydd ac un ohonynt fydd iechyd a lles. Mae ein rhaglen lywodraethu yn egluro ein hymrwymiad i weithio gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dewis ffyrdd iach o fyw.

Mae Rhwydwaith Cymru o Gynlluniau Ysgolion Iach yn cefnogi ymagwedd ysgol gyfan tuag at iechyd. Mae 99 y cant o’r holl ysgolion a gynhelir yn rhan o’r cynllun a chaiff ei ystyried yn un o’r goreuon yn Ewrop. Ar ben hynny, mae’r cynllun wedi ei ymestyn yn llwyddiannus bellach i gynnwys lleoliadau cyn ysgol.

Mae’r rhaglen Teithiau Llesol, sy’n gweithio mewn ysgolion i hyrwyddo teithio llesol i ac o’r ysgol, yn ategu’r ymdrechion hyn mewn ffordd wirioneddol ymarferol ac yn sicrhau bod adnoddau a chymorth ar gael i ysgolion ledled Cymru. I adeiladu ar hyn, gallaf gyhoeddi heddiw y byddaf yn comisiynu Living Streets i gyflwyno prosiect Cerdded i’r Ysgol yng Nghymru a fydd yn tynnu sylw at fanteision teithio llesol i iechyd. Bydd hefyd yn cynorthwyo nifer o ysgolion i gyflawni eu hadolygiad eu hunain o lwybrau cerdded yn eu hardal, gan gynnig ffordd gynaliadwy o asesu a nodi ffyrdd o wella’r seilwaith teithio llesol.

Mae amgylchedd y cartref hefyd yn chwarae rhan hanfodol. Mae ymgyrch 10 Cam at Bwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu rhieni i ennyn arferion iach yn eu plant drwy nodi camau hawdd y gallant eu cymryd i gynorthwyo eu plentyn i ddatblygu a chynnal pwysau iach, fel cyfyngu amser o flaen sgrîn ac annog chwarae awyr agored. Drwy ein rhaglen sydd newydd ei lansio, Plant Iach Cymru, byddwn yn sicrhau bod ymwelwyr iechyd yn gallu cynorthwyo teuluoedd i wneud dewisiadau iach o’r cyfnod cyn geni hyd at saith oed.

Mae’r trydydd pwynt yn y cynnig yn tynnu sylw at botensial y Ddeddf teithio llesol i godi lefelau gweithgarwch corfforol ar draws y boblogaeth. Rydych wedi fy nghlywed yn dweud o’r blaen fy mod yn gweld teithio llesol fel elfen allweddol o gynnwys gweithgarwch corfforol ym mywydau pob dydd pobl a bod y Ddeddf yn gosod fframwaith i gefnogi hyn. Mae’n gwneud hynny drwy sicrhau bod rhwydweithiau cerdded a beicio cydlynol yn cael eu cynllunio yn ein cymunedau ar draws Cymru a thrwy hyrwyddo eu defnydd. Er mwyn sicrhau bod y rhwydweithiau hyn yn addas i’r diben a’u bod yn diwallu anghenion pobl mewn gwirionedd, mae angen i awdurdodau lleol gynnwys y rhai sy’n cerdded ac yn beicio’n rheolaidd, ond hefyd, yn hollbwysig, y rhai nad ydynt yn gwneud hynny, fel rydym wedi clywed. Roeddwn yn falch o gael cyfarfod yn ddiweddar gyda’n bwrdd teithio llesol, er mwyn dangos fy mod yn gwbl o ddifrif ynglŷn â’u gwaith. Ac rwyf wrth fy modd fod Dr Adrian Davis wedi cytuno i ymuno â’n bwrdd gan ei fod yn cyfrannu cryn dipyn o arbenigedd ym maes teithio llesol ac ym maes iechyd cyhoeddus.

Mewn perthynas â phedwerydd pwynt y cynnig, rydym yn cytuno bod ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned yn allweddol i bennu’r ffordd orau o gynllunio seilwaith teithio llesol lleol, ac mae hwn yn ofyniad rydym yn ei fynnu gan awdurdodau lleol, sydd yn y sefyllfa orau i ymgysylltu ag anghenion ac asedau amrywiol eu cymunedau lleol.