Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i gael fy nghysylltu efo’r cynnig yma ac i gefnogi’r Aelodau eraill sydd wedi siarad mor frwd heddiw dros yr angen i hybu gweithgaredd corfforol ac i sicrhau bod yr isadeiledd priodol yn ei le o ran teithio llesol, i allu sicrhau i hynny ddigwydd o fewn ein cymunedau ni fel rhan o fywyd bob dydd.
Mae iechyd pobl Cymru, a phlant Cymru yn arbennig, wrth gwrs, yn fater sy’n achos pryder i bob un ohonom ni yma. Mae yna ddigon o arwyddion ein bod ni’n creu problemau iechyd a chymdeithasol enfawr ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae’r ffaith ein bod ni’n gwario 10 y cant o gyllideb yr NHS ar drin diabetes yn rhybudd digon clir i ni. Fel Aelod Cynulliad Ynys Môn, nid oeddwn yn falch iawn o weld Môn yn codi i frig un tabl y llynedd, pan wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi mai ym Môn bellach oedd y gyfran uchaf o blant sydd dros eu pwysau neu’n ordew. Un rhan o dair o blant yr ynys dros eu pwysau neu’n ordew; mae’r ffigurau yna’n gwbl, gwbl frawychus.
Wrth gwrs, mae diffyg gweithgaredd corfforol wrth wraidd llawer o hynny. Y broblem, fel dywedodd Julie Morgan yn gynharach, ydy bod patrymau plant yn gynnar yn eu bywydau’n aml iawn yn cael eu hefelychu pan mae’r plant hynny’n troi’n oedolion. Felly, mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r broblem wrth ei gwraidd. Rwy’n gwneud tipyn o hyfforddi rygbi yng nghlwb rygbi Llangefni. Rwy’n ymddiheuro wrth y plant am safon y rygbi rwy’n ei ddysgu iddyn nhw, ond un peth sy’n fy ngyrru heb os ydy’r elfen o hybu gweithgaredd corfforol. Mae yna enghreifftiau lu ar draws Ynys Môn o gyfleon sy’n cael eu darparu ar gyfer ein pobl ifanc ni, o rygbi i bêl-droed i hoci i gymnasteg i athletau i hwylio—mae yna ormod i’w henwi. Mae’n olygfa wych bod yng nghanolfan codi pwysau a ffitrwydd Caergybi pan fydd ysgol Caergybi sydd gerllaw yn cau ar ddiwedd y dydd a’r bobl ifanc yn llifo i mewn oherwydd bod yna adnoddau yna ar eu cyfer nhw a bod yna bobl yna i’w hysbrydoli nhw i edrych ar ôl eu hiechyd eu hunain drwy ymarfer corff.
Ond, rhywsut, mae’n rhaid inni sicrhau bod rhagor o weithgaredd corfforol yn digwydd yn ein hysgolion ni. Wrth gwrs, mae yna addysg gorfforol wedi’i hamserlenni. Ond, fel mae’r cynnig yn ei nodi, dim ond rhyw draean o blant Cymru sy’n cael yr awr ddyddiol o weithgaredd corfforol sy’n cael ei argymell. Maddeuwch i fi am beidio â chyffroi gormod bod y ffigur wedi codi o 35 y cant i 36 y cant. Rwy’n meddwl mai drwy’r ysgol, ar gyfer pobl ifanc, y mae gwthio’r ffigur hwnnw i fyny. Rwy’n gredwr cryf, er enghraifft, mewn ymestyn y dydd yn yr ysgol er mwyn rhoi amser i hybu gweithgarwch. Mae’n rhaid sicrhau bod yr adnoddau yno yn ein hysgolion ni. Ac, wrth gwrs, mae hybu teithio llesol ar gyfer cyrraedd yr ysgol yn cynnig haen ychwanegol o weithgarwch corfforol. Rwy’n sicr yn croesawu’r gwaith newydd sydd wedi cael ei gomisiynu gan y Llywodraeth, ond mae’n amser, fel dywedodd Nick Ramsay, inni weld addewidion yn troi’n realiti.
Gadewch inni edrych ar ychydig yn hwyrach mewn bywyd, lle mae gweithgaredd corfforol yr un mor allweddol. Mae Age Cymru yn ein hatgoffa ni bod sicrhau lefelau digonol o ymarfer corff yn hanfodol i’r boblogaeth hŷn er mwyn eu hiechyd yn gyffredinol, ond hefyd er mwyn eu hannibyniaeth nhw a’u gallu nhw i chwarae rhan lawn mewn cymdeithas. A’r hyn sy’n wych, wrth gwrs, ydy bod yr ymarfer corff yna yn gallu bod yn rhan greiddiol o fywyd bob dydd. Un arf sydd gennym ni, sydd i fod i helpu, ydy’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Yn anffodus, nid yw manteision iechyd teithio llesol yn cael eu gwerthfawrogi digon. Mae’r system i werthuso cost a budd prosiectau yn gadael nifer o’r manteision iechyd allan o’u dadansoddiad, er enghraifft, sy’n golygu nad ydy cynlluniau teithio llesol yn sgorio mor uchel ag y dylen nhw. Mae Sustrans—rydym wedi clywed llawer amdanyn nhw heddiw—o’r farn nad ydy pob adran o lywodraeth yn gwerthfawrogi manteision teithio llesol. Eu profiad nhw ydy mai, hyd yma, dim ond yr adrannau trafnidiaeth sydd efo hyn ar eu radar. Rydym wedi clywed hynny’n cael ei ddweud heddiw’n barod. Ond, er mwyn creu diwylliant o deithio llesol yng Nghymru, mae arnom ni angen gweithlu llawer ehangach yn gwneud iddo fo ddigwydd. Mae’n rhaid i’r meddylfryd seilo yna ddod i ben.
Fel y mae’r cynnig yn ei ddweud, ac fel y dywedodd yr Aelod dros Lanelli, mae angen gweithio yn effeithlon efo cymunedau i adnabod sut i gael y gorau o’r arf deddfwriaethol yna sydd gennym ni. Gadewch i ni felly hybu teithio llesol efo egni newydd. Mae’n amlwg ar draws y Siambr yma ein bod ni’n rhannu uchelgais. Mae’n amlwg ein bod ni’n rhannu syniad cyffredin ynglŷn ag i le rydym ni eisiau mynd, felly mae’n amser gwireddu’r weledigaeth a oedd gan John Griffiths fel Gweinidog a’r Siambr yma yn gyffredinol—y Cynulliad yn gyffredinol—nôl yn 2013 pan gafodd y Ddeddf ei phasio. Gadewch inni hybu teithio llesol, gadewch inni hybu gweithgarwch corfforol drwy’n cymdeithas ni, a gadewch inni wneud Cymru yn wlad fwy iach. Rwy’n eich annog chi i gefnogi’r cynnig yma heddiw.