8. 7. Dadl Fer: Ymuno â'r Achos: Menywod, Cymru a'r Gymanwlad — Rôl Menywod Seneddol y Gymanwlad yn y Cyfnod ar ôl Gadael yr UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 6:35, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i ymateb i’r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei haraith agoriadol ac am y rôl arweiniol y mae hi wedi’i chwarae ac yn ei chwarae, fel yr amlygir yn ei hymrwymiad i sicrhau bod rôl a dylanwad seneddwragedd y Gymanwlad yn cael eu hymestyn a’u hehangu mewn gwirionedd. Mae cael Aelod Cynulliad sy’n Gymraes yn arwain y ffordd ac yn arwain hyn mor dda wedi cael ei gydnabod—wedi’i gydnabod gan Rhun ap Iorwerth, Rhianon Passmore a Suzy Davies heddiw. Felly, dyna’r man cychwyn pwysicaf.

Wrth gwrs, mae’r corff hwn rydych yn ymwneud cymaint ag ef ac yn cyflawni’r rôl arweiniol hon ynddo—ac yn wir, Rhun, o ran eich rôl chi, ac is-gadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, Rhianon—mae’n allweddol i gynhyrchu trafodaeth ar y lefel uchaf ar y materion a’r rhwystrau niferus sy’n wynebu menywod ar draws y Gymanwlad, ac mewn digwyddiadau ar draws y byd. Yn eich cynhadledd ym mis Chwefror eleni ar ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth er mwyn grymuso menywod, roeddwn wrth fy modd yn gweld bod menywod Cymru wedi rhannu eu harbenigedd a’u profiad—Adele Baumgardt ar gyllidebu ar sail rhyw a Dr Alison Parken ar bolisïau cyflogaeth a chyflog cyfartal. Felly, roeddech yn galluogi menywod Cymru i rannu eu harbenigedd gyda seneddwragedd y Gymanwlad. Hefyd yn y gynhadledd honno, rhannodd Joyce wybodaeth—mae hi wedi siarad am hyn y prynhawn yma—am ein deddf arloesol, Deddf Trais erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a’r ffaith ein bod wedi penodi cynghorydd cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod.

Un o rolau allweddol seneddwragedd y Gymanwlad yw edrych ar ffyrdd o gynyddu nifer y menywod mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Ar draws y DU ac yn wir, yma yng Nghymru, nid oes cynrychiolaeth ddigonol i fenywod o hyd yn ein strwythurau gwleidyddol a’n prosesau gwneud penderfyniadau. Mae diffyg menywod yn y broses o wneud penderfyniadau, diffyg ffocws ar faterion o bwys i fenywod a merched, a phrinder ffyrdd i gael eu barn wedi’i chlywed yn aml yn arwain at ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth a sylfaen wan ar gyfer creu deddfwriaeth a pholisïau effeithiol. Yng Nghymru, rydym yn parhau â’n hymrwymiad i gynyddu nifer y menywod mewn bywyd cyhoeddus a sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn safleoedd o rym. Rydym hefyd, drwy ein gwaith yn mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth ddigonol i fenywod ar fyrddau sector cyhoeddus, yn ogystal â’n rhaglen amrywiaeth a democratiaeth i hybu hynny, yn herio ac yn newid y status quo.

Rydym wedi ymrwymo i’r ymgyrch 50/50 erbyn 2020, ochr yn ochr â chyflogwyr a sefydliadau ym mhob sector yng Nghymru. Rydym wedi addunedu fel Llywodraeth Cymru i gyflawni cydbwysedd 50 y cant rhwng y rhywiau yn yr uwch wasanaeth sifil erbyn y flwyddyn 2020, ond rydym hefyd yn sicrhau bod arian ar gael i’r prosiect cydbwyso grym, Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth, sy’n addysgu ac yn grymuso menywod ledled Cymru i fagu sgiliau, hyder a meddylfryd i ddod yn arweinwyr yn eu cymunedau, ac yn bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar bob lefel o fywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Ar y pwynt hwn, hoffwn gydnabod ein comisiynwyr benywaidd yng Nghymru—Sophie Howe, comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, Sarah Rochira, y comisiynydd pobl hŷn, Sally Holland, y comisiynydd plant, a Meri Huws, comisiynydd y Gymraeg. Mae’r rhain yn swyddi cyhoeddus pwysig. Maent yn arddangos y talent, y mentrau a’r camau rydym wedi’u cymryd yma yng Nghymru i wneud yn siŵr fod gennym y gorau, ein bod yn annog menywod i gamu ymlaen, ac yna cânt eu penodi i’r swyddi pwysig hyn. Rydym ni yng Nghymru, wrth gwrs, ar flaen y gad o ran dod â chydraddoldeb rhwng y rhywiau i fywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth, gyda menywod yn chwarae rhan allweddol mewn nifer o feysydd.

Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod fod gennym stori dda i’w hadrodd yng Nghymru. Mae’n wybodaeth gyffredin mai ni oedd y Cynulliad neu Senedd ddatganoledig gyntaf i gyflawni cydbwysedd 50/50 rhwng y rhywiau. Rhwng 2000 a 2005, roedd dros hanner ein Gweinidogion Cabinet, a rhwng 2005 a 2007, dros hanner holl Aelodau’r Cynulliad, yn fenywod. Ond mae’n rhaid i ni gydnabod ein bod wedi cymryd cam yn ôl o ran nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd, sydd bellach yn 42 y cant. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd i annog a chynorthwyo menywod i sefyll fel Aelodau Cynulliad yn y dyfodol, ac mae’r ddadl hon yn ein galluogi i wneud y pwynt hwnnw eto.

Mae tystiolaeth yn dangos yn glir fod cael cydbwysedd rhwng y rhywiau ar fyrddau, seneddau a thimau arwain yn well, nid yn unig i fenywod, ond i’r gymdeithas yn gyffredinol. Rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod y ffyrdd y gellid cyflawni hyn. Mae gennym, er enghraifft, y cynadleddau Merched yn Gwneud Gwahaniaeth, a gynhaliwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac a gyflwynai fodelau rôl mewn ystod o yrfaoedd gwahanol i ferched blynyddoedd 12 a 13. Roedd y siaradwyr yn ysbrydoli ac yn annog menywod ifanc i ystyried ystod eang o yrfaoedd anhraddodiadol.

Mae perygl y gallai ymdrechion i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal a chydraddoldeb rhwng y rhywiau gael eu tanseilio yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE, ac mae Joyce Watson wedi tynnu sylw at hyn, fel y gwnaeth Rhun ap Iorwerth y prynhawn yma. Gallai menywod fynd yn llai gweladwy. Mae’n bosibl na fydd eu lleisiau yn cael eu clywed yn y trafodaethau sy’n penderfynu ar ein bywydau a’n dyfodol. Mae Suzy Davies yn gwneud pwynt pwysig am ieithoedd tramor modern, ac efallai y gallwn chwarae rôl o ran datblygu’r rheini a sicrhau y gall merched fod ar flaen y gad. Rydym am sicrhau na fyddwn yn colli’r cyfleoedd hyn ar ôl gadael yr UE, fod lleisiau menywod yn cael eu clywed, a’n bod yn cadw ac yn cryfhau’r rhwydweithiau sydd gennym ar draws Ewrop, a bod yn rhaid i ni barhau i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu menywod a merched o ran cyfleoedd arweinyddiaeth. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar y byd yn ehangach, fel rydych chi wedi’i wneud heddiw, Joyce, ac edrych, er enghraifft, ar ein hymrwymiad parhaus i raglen Cymru o Blaid Affrica. Ers 2006, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ac annog miloedd o bobl i gymryd rhan mewn cysylltiadau buddiol i’r ddwy ochr rhwng Cymru ac Affrica, gan gyfrannu at yr ymgyrch i roi terfyn ar dlodi, ac i gyflawni nodau datblygu’r mileniwm y Cenhedloedd Unedig. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd yn Llywodraeth Cymru, cyfarfûm â menyw a oedd yn Weinidog yn Kenya a oedd wedi mynychu’r un ysgol â mi, ysgol y llywodraeth yn Eldoret, Kenya yn ystod fy mhlentyndod yn nwyrain Affrica. Daethom ein dwy yn Weinidogion mewn amgylchiadau gwahanol iawn. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael ei chyfarfod.

Addysg yw’r cyswllt hanfodol o hyd wrth helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac yng ngeiriau Dr James Emmanuel Kwegyir Aggrey, addysgwr gwych o Ghana—gadewch i ni gofio hyn—os ydych yn addysgu dyn, rydych yn addysgu unigolyn, ond os ydych yn addysgu menyw, rydych yn addysgu teulu, cenedl. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn Affrica—mae Joyce wedi crybwyll hyn—o ran menywod yn cael swyddi mewn safleoedd o rym, ac ers 2015, mae nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig wedi bod yn ffocws i’n hymdrechion, gan gynnwys nod 5, sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso menywod a merched. Fe wnaethom gryfhau ein hymrwymiad y llynedd drwy basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym am adeiladu Cymru lewyrchus, ond rydym yn ystyried effaith fyd-eang ein penderfyniadau a’n gweithredoedd.

Yn olaf, rwyf am dynnu sylw at waith Sefydliad Safe yma yng Nghymru. Ar 24 Hydref, bydd 10 o bobl ifanc yn cynnwys pedair Cymraes ifanc—pobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yw’r rhain—yn teithio i Uganda i weithio ar brosiect menter gymdeithasol. Byddant yn cymryd rhan ym mywyd y gymuned leol a’i heconomi. Byddant yn adeiladu popty o glai ac yn cyflwyno gweithdai ar sut i wneud bara. I’r bobl ifanc o Gymru, nid oes gennyf amheuaeth—ac fe sonioch am Senedd Ieuenctid y Gymanwlad a’r gyfnewidfa honno—y bydd hwn yn brofiad a fydd yn newid eu bywydau. Bydd yn helpu i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau arweinyddiaeth, ac yn cydnabod bod ganddynt gymaint i’w gynnig. Ar yr un pryd, bydd y prosiect yn darparu manteision cynaliadwy gwirioneddol yn Affrica o ran incwm, maeth a sgiliau. Ac wrth gwrs, bydd yn gyfle i’r bobl ifanc hynny, fel rydych yn ei ddweud, Joyce Watson, edrych allan a chydnabod yr hyn y gallant ei rannu ar draws y byd.

Felly, rwy’n falch iawn o ymateb i’r ddadl heddiw. Unwaith eto, diolch i Joyce am ei holl waith yn hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ond mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod Cymru’n wlad lle y caiff menywod eu cynrychioli’n gyfartal ar bob lefel, a lle y ceir tegwch a chydraddoldeb i bawb, ac rydym eisiau rhannu hynny ar draws y byd.