Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch am hynna, Brif Weinidog. Tybed pryd allech chi ddisgwyl gweld prif hanfodion polisi unrhyw ddeddfwriaeth newydd sy'n cael ei phasio yn ystod y pumed Cynulliad yn cael eu gweithredu. Faint o amser ydych chi’n credu fyddai rhwng Cydsyniad Brenhinol i bolisi, trwy statud, a chael ei weithredu a’i ddarparu ar lawr gwlad? Y cefndir i hyn, wrth gwrs, yw'r ddadl awtistiaeth yr wythnos diwethaf, pan roddwyd cryn sylw i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a basiwyd gyda Chydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2014, ac eto rydym ni’n dal i ddisgwyl am ganlyniadau polisi o hynny. Felly, mater o chwilfrydedd yw hwn. Diolch.