<p>Rhaglen Ddeddfwriaethol y Pumed Cynulliad</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 1:34, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, ar 28 Mehefin, dim ond newydd benderfynu gadael yr UE oedd y wlad. O ganlyniad i hynny, mae’n bosibl y gallai fod goblygiadau deddfwriaethol yma yng Nghymru. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd i ystyried y goblygiadau i’r rhaglen ddeddfwriaethol yr ydych chi’n ei chyflwyno, yn seiliedig ar y ffaith y gallem ni weld llawer mwy o ddeddfwriaeth yn dod o Frwsel o ganlyniad i’r ymadawiad hwnnw?