Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 18 Hydref 2016.
Wrth lansio eich rhaglen ddeddfwriaethol, Brif Weinidog, roeddech chi’n sôn am ddau ddarn o ddeddfwriaeth a oedd yn fater o drafodaeth rhwng ein dwy blaid ninnau, sef y darn ar Ddeddf awtistiaeth, sydd eisoes wedi cael ei chrybwyll, a Deddf arall, yn ymwneud â diddymu’r amddiffyniad o gosb rhesymol, fel y mae’n cael ei alw, ar gyfer cosbi plant. A fedrwch chi gadarnhau, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, eich bod chi’n dal, fel Prif Weinidog, am gyflwyno deddfwriaeth yn y ddau faes yma?