Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, Cymru sydd â'r nifer isaf o feddygon teulu fesul pob 1,000 o gleifion mewn unrhyw ran o'r DU—a'r nifer oedd 0.6 o feddygon teulu i bob 1,000 yn 2014. Bydd yn gwybod hefyd nad yw lleoedd hyfforddi yn cael eu llenwi ar hyn o bryd, bod nifer gynyddol o feddygon teulu yn ymddeol yn gynnar, a bod argyfwng cynyddol o ran recriwtio a chadw staff. A all ef ddweud wrth y Cynulliad pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth, gydag amserlen bendant, i hyfforddi cyfran fwy o feddygon y DU yng Nghymru?