Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 18 Hydref 2016.
Rwy’n cytuno â rhywfaint o'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, ond hoffwn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaed eisoes gan holwyr eraill heddiw o ran y Bil awtistiaeth. A yw'n deall y dicter eang ac, yn wir, annealltwriaeth ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol bod ACau Llafur wedi cael eu chwipio yr wythnos diwethaf i bleidleisio yn erbyn y cynnig ar gyfer Bil awtistiaeth, nad oedd yn gynnig deddfwriaethol ynddo'i hun mewn gwirionedd, ond yn fynegiant o farn y Cynulliad hwn ar fater sy'n mynd at galon dioddefaint degau a degau o filoedd o bobl yng Nghymru?