Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 18 Hydref 2016.
Mae adnewyddu’r fasnachfraint yn rhoi cyfle i ni roi sylw i'r mater o gapasiti, ac mae problem sylweddol gyda chapasiti ar reilffyrdd y Cymoedd. Fel y byddwch yn gwybod, mae cymudwyr yn wynebu problemau gorlenwi ac oedi bob dydd. Mae amlder yn broblem hefyd. Ar reilffordd Treherbert, er enghraifft—un yr wyf yn arbennig o gyfarwydd â hi—dim ond dau bwynt pasio sydd ar y rheilffordd honno, ac mae angen i ni fynd o reilffordd sengl i reilffordd ddeuol. Caiff rheilffordd Treherbert ei chrybwyll yn y gyllideb heddiw. A allwch chi ddweud mwy am y rheilffordd honno ac, yn benodol, a allwch chi ddweud wrthym pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld cynllun ar gyfer ailddeuoli rheilffordd Treherbert os gwelwch yn dda?