Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddwyd adroddiad yr wythnos diwethaf yn tynnu sylw at y gost ychwanegol y gallai eich polisi gofal plant ei gostio yn y pen draw o bosibl i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y Cynulliad pum mlynedd—diffyg posibl o tua £120 miliwn dros yr hyn a gostiwyd gennych ar gyfer eich maniffesto. A ydych chi’n cydnabod y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw, ac os ydych chi’n cydnabod y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw, sut ydych chi’n gwneud y paratoadau i allu bodloni’r galw cynyddol hwnnw? Rydym ni i gyd yn cydnabod bod gofal plant yn rhan bwysig o'r cydbwysedd y mae llawer o deuluoedd yn ei wynebu o ddydd i ddydd.