Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 18 Hydref 2016.
Rwy’n cymryd o’ch ateb eich bod yn derbyn bod potensial ar gyfer y gorwariant enfawr hwn, yn enwedig os bydd y cynllun, gobeithio, yn llwyddiant ysgubol, er tegwch, Brif Weinidog, oherwydd fel y dywedais, cydnabuwyd gan bob plaid bod gofal plant yn fater enfawr wrth fynd i mewn i'r etholiad. Eich cynnig chi yw’r cynnig a fydd yn cael ei weithredu gan mai chi sydd mewn Llywodraeth, a cheir y gorwariant posibl hwn o £110 miliwn. Nid yw hynny'n arian mân o ran y cyllid sydd gennych chi ar gael fel Llywodraeth. Pa baratoadau ydych chi'n eu gwneud i sicrhau bod adnoddau ar gael fel y gall y cynllun gael ei weithredu ac y gellir gwireddu ei gapasiti a’i botensial llawn ar ddiwedd y Cynulliad hwn?