Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 18 Hydref 2016.
Bydd hynny'n dod yn amlwg yn ystod y datganiad ar y gyllideb ddrafft. O ran ffordd liniaru'r M4, bydd honno, wrth gwrs, yn cael ei hariannu trwy fenthyg ac nid trwy ein cyllidebau cyfalaf ein hunain. Rydym ni’n fwy na bodlon ar y ffigurau a ddarparwyd gennym yn ôl ym mis Mai ac y byddant yn ein helpu i gyflawni'r addewidion maniffesto a wnaethom. Yn wir, dyna'n union yr hyn a wnaethom yn 2011—fe wnaethom gadw ein haddewidion bryd hynny a byddwn yn cadw’r addewidion hynny yn 2016.