Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 18 Hydref 2016.
Mae cadw pobl allan o'r ysbyty yn cyflwyno galw am wasanaethau gofal sylfaenol sydd eisoes o dan bwysau. Mae pobl sydd angen gofal cymdeithasol yn fwy tebygol o alw ar ofal sylfaenol ac, yn ôl pob tebyg, gofal ailalluogi, na'r boblogaeth gyffredinol. Nid yw gofal cymdeithasol yn ymwneud â'r meddyg teulu yn gyfan gwbl, fodd bynnag, ac rwy’n meddwl tybed sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cefnogaeth ymyrraeth anfeddygol i gynorthwyo hyder a lles emosiynol pobl mewn gofal cymdeithasol, a sut yr ydych chi’n mesur wedyn y gostyngiad i’r galw am wasanaethau gofal sylfaenol, yn enwedig gwasanaethau gofal iechyd meddwl sylfaenol.